Rhif y ddeiseb: P-06-1263

Teitl y ddeiseb: Rheoli llygredd sy'n deillio o waith amaethyddol yn y rhannau o Afon Gwy ac Afon Hafren a leolir yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb:

1. Cyflwyno moratoriwm ar unwaith o unrhyw unedau dofednod dwys newydd yn nalgylchoedd Afon Gwy ac Afon Hafren sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.

2. Cadw rheolaeth lym ar y broses o wasgaru tail yn ôl y llwyth ffosffad yn y ddaear

3. Monitro lefelau ffosffad

4.  Cymryd camau cyfreithiol yn erbyn unrhyw achos o dorri deddfwriaeth llygredd.

Gwybodaeth ychwanegol:

Mae ansawdd dŵr a bioamrywiaeth wedi gwaethygu yn y ddwy afon yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd lefelau uchel o nitradau a ffosffadau sy’n arwain at dwf algâu. Mae hyn wedi arwain at ddirywiad sylweddol mewn bioamrywiaeth. Llygredd o ddŵr ffo sy’n deillio o waith amaethyddol, yn enwedig o unedau dofendod dwys (IPUs), yw’r prif achos sy’n cyfrannu at fwy o lygredd yn yr afonydd hyn. Mae angen cadw rheolaeth lym ar lygredd sy’n deillio o waith amaethyddol ffermydd er mwyn atal trychineb ecolegol.

 


1.        Cefndir

Mae Afon Hafren ac Afon Gwy yn codi ym mynyddoedd Cambria ac yn llifo tua'r dwyrain, trwy Bowys, i Loegr ar eu ffordd i Fôr Hafren. Yr Hafren yw afon hiraf y DU, ac afon Gwy yw’r hiraf ond tri. Mae’r ddwy yn ymddolennu trwy dir amaethyddol toreithiog am lawer o'u ffordd tua’r môr.

1.1.            Sector dofednod Cymru

Mae'r sector dofednod yn gymharol fach, yn cyfrif am 7 y cant o gynnyrch amaethyddol Cymru, ac fe’i nodweddir gan nifer fawr yradar a gedwir gan nifer gymharol fach o gynhyrchwyr mawr.

Mae nifer yr adar a gedwir yng Nghymru wedi cynyddu yn yr 50 mlynedd diwethaf, gydag unedau dofednod dwys (IPUs) yn cael eu sefydlu i gynhyrchu cig ac wyau.

Mae ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos bod 10.4 miliwn o ddofednod yng Nghymru ym mis Mehefin 2020, y rhan fwyaf ohonynt yn ieir a gadwyd am eu cig (6.5 miliwn o adar) ac ar gyfer wyau (3.1 miliwn o adar).

1.2.          Pryderon amgylcheddol

Mae 60 y cant o gyrff dŵr wyneb a dŵr daear Cymru yn methu â chyrraedd statws ecolegol da o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Yn yr Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR) (2020), nodir llygredd amaethyddol fel un o'r prif achosion.

O ran achosion o lygredd y cadarnhawyd eu bod yn effeithio ar ddŵr wyneb, mae Data Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) (2016 i 2021) yn dangos mai amaethyddiaeth a’r diwydiant dŵr yw’r ddau gyfrannwr mwyaf.

Gall llygredd amaethyddol arwain at gynnydd yn y maetholion (fel nitrogen a ffosfforws) sy’n mynd i grynofeydd dŵr, gan leihau ansawdd dŵr a niweidio bywyd dyfrol.

Galwodd Cyswllt Amgylchedd Cymru am foratoriwm ar unedau dofednod dwys ym mis Medi 2020, gan ddweud:

… Agricultural pollution is currently one of most significant contributors to the poor health of Welsh rivers and is the most significant source of diffuse water pollution. Intensive livestock rearing and inefficient storage and spreading of manures, slurries, digestate and other fertilisers are the main causes of this pollution. …

1.3.          Unedau dofednod dwys ym Mhowys

Bu cynnydd sylweddol yn nifer yr unedau hyn ym Mhowys yn y blynyddoedd diwethaf.

Dywed Cyswllt Amgylchedd Cymru fod cynllunwyr Cyngor Sir Powys wedi cymeradwyo 156 o unedau yn y pum mlynedd hyd at 2020, a bod 28 o geisiadau arall eto i'w penderfynu ar yr adeg honno. Mae’n dweud bod pum gwaith cymaint o geisiadau cynllunio am unedau dofednod dwys ym Mhowys nag yng ngweddill Cymru ers mis Ebrill 2017.

Mae Cangen Brycheiniog a Maesyfed o Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig yn cadw map o geisiadau cynllunio ar gyfer siediau dofednod ym Mhowys (diweddarwyd ddiwethaf ar 11 Mawrth 2021) ac fe gyflwynodd ddeiseb debyg ei hun yn 2018: P-05-815 Rheoli’r Diwydiant Dofednod Dwys Sy’n Ehangu’n Gyflym yng Nghymru.

Gwnaeth Pwyllgor Deisebau’r Bumed Senedd gau’r ddeiseb honno ym mis Gorffennaf 2020, gan nodi bod gwaith yn mynd rhagddo i gryfhau gofynion cynllunio (gweler isod). Daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oedd llawer mwy y gallai ei gyflawni bryd hynny.

1.4.          Rheoleiddio

Mae i reoleiddio unedau dofednod ddwy brif elfen - y system gynllunio (sef cyfrifoldeb yr awdurdod cynllunio lleol) a'r system drwyddedu amgylcheddol (sef cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru).

Yn fras, mae angen caniatâd cynllunio ar unedau dofednod newydd ac Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol yn ogystal lle maent yn mynd y tu hwnt i drothwyon penodol. Mae hefyd angen trwydded amgylcheddol uwchben trothwy penodol.

Ceir rhagor o fanylion am y ddwy ran hyn yn y papur briffio a baratowyd gan Ymchwil y Senedd ar gyfer deiseb yn 2018.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Gwnaeth Llywodraeth flaenorol Cymru ymrwymo i ddatblygu Nodyn Cyngor Technegol (TAN) newydd ar gyfer cynllunioer mwyn darparu canllawiau i awdurdodau cynllunio lleol ar gyfer delio â cheisiadau am ddatblygiadau amaethyddol dwys.

Mae Ymchwil y Senedd yn deall bod gweithgor sy’n cynnwys awdurdodau cynllunio lleol, undebau ffermio, grwpiau amgylcheddol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, CNC a swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod nifer o weithiau i drafod datblygiad y TAN. Fodd bynnag, mae cyfradd y cynnydd yn aneglur ac nid yw Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, yn cyfeirio at y gwaith hwn yn ei llythyr atoch.

Mae llythyr y Gweinidog yn dweud nad yw arferion gwael na llygredd wedi’u cyfyngu i un ardal neu fath o fferm, ac mai llygredd amaethyddol yw un o’r prif resymau nad yw crynofeydd dŵr yn bodloni gofynion statws da. Mae’n ymateb i’r pedwar pwynt a godwyd gan y deisebydd:

2.1.          Moratoriwm di-oed

Mae'r Gweinidog yn tynnu sylw at y ddatganiad sefyllfa cynllunio gan CNC ar Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Afon Gwy a ffosffadau. Mae’r datganiad yn argymell y dylai fod yn rhaid i unrhyw ddatblygiad newydd arfaethedig a allai arwain at gynnydd yn lefel y ffosffad yn ACA Gwy ddangos niwtraliaeth neu welliant o ran ffosffadau.

Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru asesiad cydymffurfiaeth ardaloedd cadwraeth arbennig afonydd Cymru yn erbyn targedau ffosfforws ym mis Ionawr 2021. Sbardunwyd yr asesiad gan newidiadau i Ganllawiau'r Cydbwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC). lle mae targedau ffosfforws yn cael eu tynhau'n sylweddol.

Adolygodd yr asesiad ddata ansawdd dŵr o 2017 i 2019 yn erbyn y targedau ffosfforws newydd, ac o naw ACA afonol Cymru, dangosodd fod 61 y cant o’r 107 o grynofeydd dŵr (rhannau o afonydd) a aseswyd yn methu â chyrraedd eu targedau ffosfforws.

O ganlyniad, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru gyngor i awdurdodau cynllunio ar gyfer ceisiadau cynllunio sy'n effeithio ar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonydd sy'n sensitif i ffosfforws. Mae hyn yn gofyn am i ddatblygiadau o fewn dalgylchoedd crynofeydd dŵr mewn ACA afonol, a’r isafonydd iddynt nad ydynt yn ardaloedd cadwraeth arbennig, gael eu hasesu ar gyfer yr effaith bosibl ar lefelau ffosfforws.

Noder: nid yw'r rhan o’r Hafren sydd yng Nghymru wedi'i dynodi'n ACA afonol.

2.2.        Cadw rheolaeth ar y broses o wasgaru tail yn ôl y llwyth ffosffad yn y ddaear

Mae’r Gweinidog yn tynnu sylw at Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 sy'n cyfyngu'n raddol ar faint o faetholion, gan gynnwys nitrogen a ffosfforws, y gellir eu rhoi ar dir.

Mae'n pwysleisio’r ffaith ei bod yn drosedd achosi neu ganiatáu yn fwriadol i ddeunydd llygrol neu ddeunydd gwastraff solet gael ei ollwng i ddyfroedd rheoledig heb ganiatâd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'r rheoliadau wedi bod yn ddadleuol. Mae ffermwyr wedi dweud eu bod yn llym ac yn gosbol, ond mae amgylcheddwyr yn dadlau ei bod yn hen bryd wrthynt ac y byddant yn helpu i atal difrod amgylcheddol trychinebus.

Pleidleisiodd y Senedd dros adolygu'r rheoliadau ym mis Mehefin 2020 — mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wrthi’n cynnal yr adolygiad hwnnw (gweler isod).

Dygodd NFU Cymru her gyfreithiol yn erbyn y rheoliadau. Dibynnwyd ar bedair sail ar gyfer her, ond fe gawsant eu gwrthod gan y Llys. Roeddent yn cynnwys bod Gweinidogion Cymru wedi gweithredu’n afresymol ac yn anghyfreithlon drwy fethu ag ystyried yr holl dystiolaeth berthnasol, ac i dystiolaeth amherthnasol gael ei hystyried cyn gwneud penderfyniad terfynol i gyflwyno’r rheoliadau.

Ceir cefndir pellach i’r rheoliadau yn yr erthygl hon gan Ymchwil y Senedd.

2.3.        Monitro lefelau ffosffad

Mae’r Gweinidog yn nodi bod Cyfoeth Naturiol Cymru’n monitro lefelau ffosffad mewn ardaloedd cadwraeth arbennig afonol ac mae’n cyfeirio at yr asesiad cydymffurfio y cyfeirir ato uchod. Mae hi'n dweud, mewn ymateb i'r asesiad, fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp goruchwylio rheoli ACA i ddarparu arweiniad ar leihau lefelau ffosfforws mewn ardaloedd cadwraeth arbennig afonol.

2.4.        Cymryd camau cyfreithiol yn erbyn torri’r rheolau

Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am orfodi deddfwriaeth llygredd. Mae'r Gweinidog yn amlygu bod ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru i ddigwyddiad yn seiliedig ar broses categoreiddio a blaenoriaethu ar gyfer digwyddiadau.

Mae hi hefyd yn nodi bod 'Safonau Dilysadwy' yn cael eu gorfodi gan Arolygiaeth Wledig Cymru drwy drawsgydymffurfio ar gyfer cyfranogwyr cynlluniau a ariennir, megis Cynllun y Taliad Sylfaenol. Safonau Dilysadwy yw'r rheolau y mae'n rhaid i ffermwyr eu dilyn wrth wneud cais am daliadau.

Ceir rhagor o fanylion am ymateb y Gweinidog i bedwar pwynt y Deisebydd yn ei llythyr atoch.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wrthi ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad i'r rheoliadau llygredd amaethyddol, o ganlyniad i bleidlais yn y Senedd i’w hadolygu. Clywodd y Pwyllgor gan Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Medi 2021 a chan undebau ffermio a sefydliadau amgylcheddol ym mis Tachwedd 2021, yn dilyn ymgynghoriad agored a gynhaliwyd yn yr haf. Mae’r Pwyllgor yn disgwyl clywed tystiolaeth gan y Gweinidog cyn gynted ag y bo modd yn ystod tymor yr haf.

Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith hefyd wedi cynnal ymchwiliad i ansawdd dŵr, ond roedd hwn yn canolbwyntio ar ollyngiadau carthion.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.